Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”)

Tystiolaeth gan Cymdeithas Prif Swyddogion Safonau Masnach (ACTSO) – LH AI 03

 

SAFONAU MASNACH A SYLWEDDAU SEICOWEITHREDOL NEWYDD – Ymateb i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

“Mae'r Pwyllgor wedi nodi, fel rhan o'i ymchwiliad presennol i sylweddau seicoweithredol newydd, yr hoffai'r aelodau archwilio rôl safonau masnach gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol pan fydd yn dod i gyflwyno tystiolaeth ar 26 Tachwedd. O ystyried bod safonau masnach yn gweithredu'n unol â deddfwriaeth y DU, sydd i raddau helaeth heb gael ei datganoli, roedd y Gweinidog o'r farn y byddai'n ddefnyddiol amlinellu cyd-destun y polisi a'r ddeddfwriaeth cyn y cyfarfod hwnnw.

 

Gwasanaeth a ddarperir gan lywodraeth leol yw safonau masnach. Maent yn gweithredu'n bennaf mewn meysydd polisi a deddfwriaeth sydd heb eu datganoli. Mae swyddogion safonau masnach yn gorfodi amrywiaeth eang o ddeddfwriaeth - mae’r rhain yn amrywio o Gyfarwyddebau'r UE sy'n rheoli'r ddarpariaeth o nwyddau a gwasanaethau ar draws ffiniau cenedlaethol a rhyngwladol, a deddfwriaeth a rheoliadau Llywodraeth y DU ar faterion sydd heb eu datganoli, megis pwysau a mesurau, prisiau, credyd defnyddwyr a diogelwch nwyddau. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud rheoliadau ar nifer gyfyngedig o faterion a ddatganolwyd yn benodol, megis iechyd anifeiliaid, safonau bwyd a diogelwch bwyd.

 

Nid oes gan y Cynulliad gymhwysedd i ddeddfu ar ddiogelu defnyddwyr yn gyffredinol. Mae diogelu defnyddwyr, gan gynnwys gwerthu a chyflenwi nwyddau i ddefnyddwyr, gwarantau i ddefnyddwyr, hurbwrcasu, disgrifiadau masnach, hysbysebu a dynodiadau pris, ar wahân i mewn perthynas â bwyd (gan gynnwys pecynnau a deunyddiau eraill sy’n dod i gysylltiad â bwyd), cynhyrchion amaethyddol a garddwriaethol, hadau, gwrteithiau a phlaladdwyr (a phethau sy’n cael eu trin yn sgil unrhyw ddeddfiad fel plaladdwyr), yn cael ei restru fel eithriad i bwnc ‘adfywio a datblygu economaidd ‘ ym mharagraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Felly, oni fydd mater wedi’i ddatganoli i’r Cynulliad, nid oes gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol yn y meysydd hyn, yr ymdrinnir â hwy yn gyffredinol gan adran safonau masnach yr awdurdod lleol.

 

O ran rôl safonau masnach yn mynd i’r afael â sylweddau seicoweithredol newydd, rydym yn deall bod swyddogion lleol yn dibynnu i raddau helaeth ar ddeddfwriaeth y DU sy’n ymwneud â diogelwch defnyddwyr a diogelwch nwyddau ar gyfer gweithredu unrhyw orfodi sydd ei angen. Er ein bod yn deall anawsterau a rhwystredigaeth swyddogion safonau masnach sy’n gweithio yn y maes hwn meddyliais y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Pwyllgor yn cael gwybod am y cyfyngiadau ar bwerau Gweinidogion Cymru a chymhwysedd y Cynulliad i lunio’r fframwaith deddfwriaethol. Ar ôl dweud hynny, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus i ddefnyddio pob dull cyflawni polisi sydd ar gael er mwyn rhoi cymorth i swyddogion safonau masnach yn eu hymdrech i wrthweithio effaith sylweddau seicoweithredol newydd ar gymunedau yng Nghymru”.